Diarhebion 12:23-28 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

23. Gŵr pwyllog a gela wybodaeth: ond calon ffyliaid a gyhoedda ffolineb.

24. Llaw y diesgeulus a deyrnasa: a llaw y twyllodrus a fydd dan deyrnged.

25. Gofid yng nghalon gŵr a bair iddi grymu: ond gair da a'i llawenha hi.

26. Y cyfiawn a ragora ar ei gymydog: ond ffordd y rhai drygionus a'u twylla hwynt.

27. Ni rostia y twyllodrus ei helwriaeth: ond golud y dyn diesgeulus sydd werthfawr.

28. Yn ffordd cyfiawnder y mae bywyd; ac yn ei llwybrau hi nid oes marwolaeth.

Diarhebion 12