Diarhebion 12:1-6 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Yneb a garo addysg, a gâr wybodaeth: ond y neb a gasao gerydd, anifeilaidd yw.

2. Gŵr da a gaiff ffafr gan yr Arglwydd: ond gŵr o ddichellion drwg a ddamnia efe.

3. Ni sicrheir dyn trwy ddrygioni: ond gwraidd y cyfiawn nid ysgoga.

4. Gwraig rymus sydd goron i'w gŵr: ond y waradwyddus sydd megis pydrni yn ei esgyrn ef.

5. Meddyliau y cyfiawn sydd uniawn: a chynghorion y drygionus sydd dwyllodrus.

6. Geiriau y drygionus yw cynllwyn am waed: ond genau yr uniawn a'u gwared hwynt.

Diarhebion 12