Diarhebion 12:1-14 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Yneb a garo addysg, a gâr wybodaeth: ond y neb a gasao gerydd, anifeilaidd yw.

2. Gŵr da a gaiff ffafr gan yr Arglwydd: ond gŵr o ddichellion drwg a ddamnia efe.

3. Ni sicrheir dyn trwy ddrygioni: ond gwraidd y cyfiawn nid ysgoga.

4. Gwraig rymus sydd goron i'w gŵr: ond y waradwyddus sydd megis pydrni yn ei esgyrn ef.

5. Meddyliau y cyfiawn sydd uniawn: a chynghorion y drygionus sydd dwyllodrus.

6. Geiriau y drygionus yw cynllwyn am waed: ond genau yr uniawn a'u gwared hwynt.

7. Difethir y drygionus, fel na byddont hwy: ond tŷ y cyfiawn a saif.

8. Yn ôl ei ddeall y canmolir gŵr: ond gŵr cyndyn ei galon a ddiystyrir.

9. Gwell yw yr hwn a'i cydnabyddo ei hun yn wael, ac sydd was iddo ei hun, na'r hwn a'i hanrhydeddo ei hun, ac sydd arno eisiau bara.

10. Y cyfiawn a fydd ofalus am fywyd ei anifail: ond tosturi y drygionus sydd greulon.

11. Y neb a lafurio ei dir, a ddigonir o fara: ond y neb a ganlyno oferwyr, disynnwyr yw.

12. Y drygionus sydd yn deisyf rhwyd y drygionus: ond gwreiddyn y cyfiawn a rydd ffrwyth.

13. Trwy drosedd ei wefusau y meglir y drygionus: ond y cyfiawn a ddaw allan o gyfyngder.

14. Trwy ffrwyth ei enau y digonir gŵr â daioni; a thaledigaeth dwylo dyn a delir iddo.

Diarhebion 12