Diarhebion 10:28-32 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

28. Gobaith y cyfiawn fydd llawenydd: ond gobaith y drygionus a dderfydd amdano.

29. Ffordd yr Arglwydd sydd gadernid i'r perffaith: ond dinistr fydd i'r rhai a wnânt anwiredd.

30. Y cyfiawn nid ysgog byth: ond y drygionus ni phreswyliant y ddaear.

31. Genau y cyfiawn a ddwg allan ddoethineb: a'r tafod cyndyn a dorrir ymaith.

32. Gwefusau y cyfiawn a wyddant beth sydd gymeradwy; ond genau y drygionus a lefara drawsedd.

Diarhebion 10