Diarhebion 10:25-29 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

25. Fel y mae y corwynt yn myned heibio, felly ni bydd y drygionus mwy: ond y cyfiawn sydd sylfaen a bery byth.

26. Megis finegr i'r dannedd, a mwg i'r llygaid, felly y bydd y diog i'r neb a'i gyrrant.

27. Ofn yr Arglwydd a estyn ddyddiau: ond blynyddoedd y drygionus a fyrheir.

28. Gobaith y cyfiawn fydd llawenydd: ond gobaith y drygionus a dderfydd amdano.

29. Ffordd yr Arglwydd sydd gadernid i'r perffaith: ond dinistr fydd i'r rhai a wnânt anwiredd.

Diarhebion 10