Diarhebion 1:1-5 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Diarhebion Solomon mab Dafydd, brenin Israel;

2. I wybod doethineb ac addysg, i ddeall geiriau synnwyr;

3. I gymryd athrawiaeth deall, cyfiawnder, a barn, ac uniondeb;

4. I roi callineb i'r angall, ac i'r bachgen wybodaeth a synnwyr.

5. Y doeth a wrendy, ac a chwanega addysg; a'r deallgar a ddaw i gynghorion pwyllog:

Diarhebion 1