8. Yn Horeb hefyd y digiasoch yr Arglwydd; a digiodd yr Arglwyddwrthych i'ch difetha.
9. Pan euthum i fyny i'r mynydd i gymryd y llechau meini, sef llechau y cyfamod, yr hwn a wnaeth yr Arglwydd â chwi; yna yr arhoais yn y mynydd ddeugain niwrnod a deugain nos: bara ni fwyteais, a dwfr nid yfais.
10. A rhoddes yr Arglwydd ataf y ddwy lech faen, wedi eu hysgrifennu â bys Duw; ac arnynt yr oedd yn ôl yr holl eiriau a lefarodd yr Arglwydd wrthych yn y mynydd, o ganol y tân, ar ddydd y gymanfa.
11. A bu, ymhen y deugain niwrnod a'r deugain nos, roddi o'r Arglwydd ataf y ddwy lech faen; sef llechau y cyfamod.
12. A dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Cyfod, dos oddi yma i waered yn fuan: canys ymlygrodd dy bobl, y rhai a ddygaist allan o'r Aifft: ciliasant yn ebrwydd o'r ffordd a orchmynnais iddynt; gwnaethant iddynt eu hun ddelw dawdd.
13. A llefarodd yr Arglwydd wrthyf, gan ddywedyd, Gwelais y bobl hyn; ac wele, pobl wargaled ydynt.
14. Paid â mi, a mi a'u distrywiaf hwynt, ac a ddileaf eu henw hwynt oddi tan y nefoedd; ac a'th wnaf di yn genedl gryfach, ac amlach na hwynt‐hwy.
15. A mi a ddychwelais, ac a ddeuthum i waered o'r mynydd, a'r mynydd ydoedd yn llosgi gan dân; a dwy lech y cyfamod oedd yn fy nwylo.
16. Edrychais hefyd; ac wele, pechasech yn erbyn yr Arglwydd eich Duw: gwnaethech i chwi lo tawdd: ciliasech yn fuan o'r ffordd a orchmynasai yr Arglwydd i chwi.
17. A mi a ymeflais yn y ddwy lech, ac a'u teflais hwynt o'm dwylo, ac a'u torrais hwynt o flaen eich llygaid.
18. A syrthiais gerbron yr Arglwydd, fel y waith gyntaf, ddeugain niwrnod a deugain nos; ni fwyteais fara, ac nid yfais ddwfr: oherwydd eich holl bechodau chwi y rhai a bechasech, gan wneuthur drygioni yng ngolwg yr Arglwydd i'w ddigio ef.
19. (Canys ofnais rhag y soriant a'r dig, trwy y rhai y digiodd yr Arglwydd wrthych, i'ch dinistrio chwi.) Eto gwrandawodd yr Arglwydd arnaf y waith honno hefyd.
20. Wrth Aaron hefyd y digiodd yr Arglwydd yn fawr, i'w ddifetha ef: a mi a weddïais hefyd dros Aaron y waith honno.
21. Eich pechod chwi hefyd yr hwn a wnaethoch, sef y llo, a gymerais, ac a'i llosgais yn tân; curais ef hefyd, gan ei falurio yn dda, nes ei falu yn llwch: a bwriais ei lwch ef i'r afon oedd yn disgyn o'r mynydd.
22. O fewn Tabera hefyd, ac o fewn Massa, ac o fewn Beddau'r blys, yr oeddech yn digio'r Arglwydd.