Deuteronomium 9:5-9 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

5. Nid am dy gyfiawnder di, nac am uniondeb dy galon, yr wyt ti yn myned i feddiannu eu tir hwynt: ond am annuwioldeb y cenhedloedd hyn y bwrw yr Arglwydd dy Dduw hwynt allan o'th flaen di, ac er cyflawni'r gair a dyngodd yr Arglwydd wrth dy dadau, wrth Abraham, wrth Isaac, ac wrth Jacob.

6. Gwybydd dithau, nad am dy gyfiawnder dy hun y rhoddes yr Arglwydd i ti y tir daionus hwn i'w feddiannu: canys pobl wargaled ydych.

7. Meddwl, ac nac anghofia pa fodd y digiaist yr Arglwydd dy Dduw yn yr anialwch: o'r dydd y daethost allan o dir yr Aifft, hyd eich dyfod i'r lle hwn, gwrthryfelgar fuoch yn erbyn yr Arglwydd.

8. Yn Horeb hefyd y digiasoch yr Arglwydd; a digiodd yr Arglwyddwrthych i'ch difetha.

9. Pan euthum i fyny i'r mynydd i gymryd y llechau meini, sef llechau y cyfamod, yr hwn a wnaeth yr Arglwydd รข chwi; yna yr arhoais yn y mynydd ddeugain niwrnod a deugain nos: bara ni fwyteais, a dwfr nid yfais.

Deuteronomium 9