Deuteronomium 9:24-27 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

24. Gwrthryfelgar fuoch yn erbyn yr Arglwydd er y dydd yr adnabûm chwi.

25. A mi a syrthiais gerbron yr Arglwydd ddeugain niwrnod a deugain nos, fel y syrthiaswn o'r blaen; am ddywedyd o'r Arglwydd y difethai chwi.

26. Gweddïais hefyd ar yr Arglwydd, a dywedais, Arglwydd Dduw, na ddifetha dy bobl, a'th etifeddiaeth a waredaist yn dy fawredd, yr hwn a ddygaist allan o'r Aifft â llaw gref.

27. Cofia dy weision, Abraham, Isaac, a Jacob; nac edrych ar galedrwydd y bobl hyn, nac ar eu drygioni, nac ar eu pechod:

Deuteronomium 9