Deuteronomium 9:10-25 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

10. A rhoddes yr Arglwydd ataf y ddwy lech faen, wedi eu hysgrifennu â bys Duw; ac arnynt yr oedd yn ôl yr holl eiriau a lefarodd yr Arglwydd wrthych yn y mynydd, o ganol y tân, ar ddydd y gymanfa.

11. A bu, ymhen y deugain niwrnod a'r deugain nos, roddi o'r Arglwydd ataf y ddwy lech faen; sef llechau y cyfamod.

12. A dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Cyfod, dos oddi yma i waered yn fuan: canys ymlygrodd dy bobl, y rhai a ddygaist allan o'r Aifft: ciliasant yn ebrwydd o'r ffordd a orchmynnais iddynt; gwnaethant iddynt eu hun ddelw dawdd.

13. A llefarodd yr Arglwydd wrthyf, gan ddywedyd, Gwelais y bobl hyn; ac wele, pobl wargaled ydynt.

14. Paid â mi, a mi a'u distrywiaf hwynt, ac a ddileaf eu henw hwynt oddi tan y nefoedd; ac a'th wnaf di yn genedl gryfach, ac amlach na hwynt‐hwy.

15. A mi a ddychwelais, ac a ddeuthum i waered o'r mynydd, a'r mynydd ydoedd yn llosgi gan dân; a dwy lech y cyfamod oedd yn fy nwylo.

16. Edrychais hefyd; ac wele, pechasech yn erbyn yr Arglwydd eich Duw: gwnaethech i chwi lo tawdd: ciliasech yn fuan o'r ffordd a orchmynasai yr Arglwydd i chwi.

17. A mi a ymeflais yn y ddwy lech, ac a'u teflais hwynt o'm dwylo, ac a'u torrais hwynt o flaen eich llygaid.

18. A syrthiais gerbron yr Arglwydd, fel y waith gyntaf, ddeugain niwrnod a deugain nos; ni fwyteais fara, ac nid yfais ddwfr: oherwydd eich holl bechodau chwi y rhai a bechasech, gan wneuthur drygioni yng ngolwg yr Arglwydd i'w ddigio ef.

19. (Canys ofnais rhag y soriant a'r dig, trwy y rhai y digiodd yr Arglwydd wrthych, i'ch dinistrio chwi.) Eto gwrandawodd yr Arglwydd arnaf y waith honno hefyd.

20. Wrth Aaron hefyd y digiodd yr Arglwydd yn fawr, i'w ddifetha ef: a mi a weddïais hefyd dros Aaron y waith honno.

21. Eich pechod chwi hefyd yr hwn a wnaethoch, sef y llo, a gymerais, ac a'i llosgais yn tân; curais ef hefyd, gan ei falurio yn dda, nes ei falu yn llwch: a bwriais ei lwch ef i'r afon oedd yn disgyn o'r mynydd.

22. O fewn Tabera hefyd, ac o fewn Massa, ac o fewn Beddau'r blys, yr oeddech yn digio'r Arglwydd.

23. A phan anfonodd yr Arglwydd chwi o Cades‐Barnea, gan ddywedyd, Ewch i fyny, a meddiennwch y tir yr hwn a roddais i chwi, yr anufuddhasoch i air yr Arglwydd eich Duw: ni chredasoch hefyd iddo, ac ni wrandawsoch ar ei lais ef.

24. Gwrthryfelgar fuoch yn erbyn yr Arglwydd er y dydd yr adnabûm chwi.

25. A mi a syrthiais gerbron yr Arglwydd ddeugain niwrnod a deugain nos, fel y syrthiaswn o'r blaen; am ddywedyd o'r Arglwydd y difethai chwi.

Deuteronomium 9