16. Na themtiwch yr Arglwydd eich Duw, fel y temtiasoch ef ym Massa.
17. Gan gadw cedwch orchmynion yr Arglwydd eich Duw, a'i dystiolaethau, a'i ddeddfau, y rhai a orchmynnodd efe i ti.
18. A gwna yr hyn sydd uniawn a daionus yng ngolwg yr Arglwydd: fel y byddo da i ti, a myned ohonot i mewn, a pherchenogi'r wlad dda, yr hon trwy lw a addawodd yr Arglwydd i'th dadau di;
19. Gan yrru ymaith dy holl elynion o'th flaen, fel y llefarodd yr Arglwydd.
20. Pan ofynno dy fab i ti wedi hyn, gan ddywedyd, Beth yw y tystiolaethau, a'r deddfau, a'r barnedigaethau, a orchmynnodd yr Arglwydd ein Duw i chwi?
21. Yna dywed wrth dy fab, Ni a fuom gaethweision i Pharo yn yr Aifft; a'r Arglwydd a'n dug ni allan o'r Aifft â llaw gadarn.
22. Rhoddes yr Arglwydd hefyd arwyddion a rhyfeddodau mawrion a niweidiol, ar yr Aifft, ar Pharo a'i holl dŷ, yn ein golwg ni;
23. Ac a'n dug ni allan oddi yno, fel y dygai efe nyni i mewn, i roddi i ni y wlad yr hon trwy lw a addawsai efe i'n tadau ni.
24. A'r Arglwydd a orchmynnodd i ni wneuthur yr holl ddeddfau hyn, i ofni yr Arglwydd ein Duw, er daioni i ni yr holl ddyddiau; fel y cadwai efe nyni yn fyw, megis y mae y dydd hwn.
25. A chyfiawnder a fydd i ni, os ymgadwn i wneuthur y gorchmynion hyn oll, o flaen yr Arglwydd ein Duw, fel y gorchmynnodd efe i ni.