1. Adyma 'r gorchmynion, y deddfau, a'r barnedigaethau a orchmynnodd yr Arglwydd eich Duw eu dysgu i chwi; fel y gwneloch hwynt yn y wlad yr ydych yn myned iddi i'w meddiannu:
2. Fel yr ofnech yr Arglwydd dy Dduw, gan gadw ei holl ddeddfau, a'i orchmynion ef, y rhai yr wyf fi yn eu gorchymyn i ti; ti, a'th fab, a mab dy fab, holl ddyddiau dy einioes: ac fel yr estynner dy ddyddiau.
3. Clyw gan hynny, O Israel, ac edrych am eu gwneuthur hwynt; fel y byddo yn ddaionus i ti, ac fel y cynyddoch yn ddirfawr, fel yr addawodd Arglwydd Dduw dy dadau i ti, mewn gwlad yn llifeirio o laeth a mêl.
4. Clyw, O Israel; yr Arglwydd ein Duw ni sydd un Arglwydd.
5. Câr di gan hynny yr Arglwydd dy Dduw â'th holl galon, ac â'th holl enaid, ac â'th holl nerth.
6. A bydded y geiriau hyn, yr ydwyf yn eu gorchymyn i ti heddiw, yn dy galon.
7. A hysbysa hwynt i'th blant; a chrybwyll amdanynt pan eisteddych yn dy dŷ, a phan gerddych ar y ffordd, a phan orweddych i lawr, a phan gyfodych i fyny.
8. A rhwym hwynt yn arwydd ar dy law; byddant yn rhactalau rhwng dy lygaid.
9. Ysgrifenna hwynt hefyd ar byst dy dŷ, ac ar dy byrth.
10. Ac fe a dderfydd, wedi i'r Arglwydd dy Dduw dy ddwyn di i'r wlad, (yr hon y tyngodd efe wrth dy dadau, wrth Abraham, wrth Isaac, ac wrth Jacob, ar ei rhoddi i ti,) i ddinasoedd mawrion a theg y rhai nid adeiledaist,