Deuteronomium 5:3-6 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

3. Nid â'n tadau ni y gwnaeth yr Arglwydd y cyfamod hwn, ond â nyni; nyni, y rhai ydym yn fyw bob un yma heddiw.

4. Wyneb yn wyneb yr ymddiddanodd yr Arglwydd â chwi yn y mynydd, o ganol y tân,

5. (Myfi oeddwn yr amser hwnnw yn sefyll rhwng yr Arglwydd a chwi, i fynegi i chwi air yr Arglwydd: canys ofni a wnaethoch rhag y tân, ac nid esgynnech i'r mynydd,) gan ddywedyd,

6. Yr Arglwydd dy Dduw ydwyf fi, yr hwn a'th ddug allan o dir yr Aifft, o dŷ y caethiwed.

Deuteronomium 5