Deuteronomium 34:1-4 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A Moses a esgynnodd o rosydd Moab, i fynydd Nebo, i ben Pisga, yr hwn sydd ar gyfer Jericho: a'r Arglwydd a ddangosodd iddo holl wlad Gilead, hyd Dan,

2. A holl Nafftali, a thir Effraim a Manasse, a holl dir Jwda, hyd y môr eithaf,

3. Y deau hefyd, a gwastadedd dyffryn Jericho, a dinas y palmwydd, hyd Soar.

4. A'r Arglwydd a ddywedodd wrtho, Dyma'r tir a fynegais i Abraham, i Isaac, ac i Jacob, gan ddywedyd, I'th had di y rhoddaf ef; perais i ti ei weled â'th lygaid, ond nid ei di drosodd yno.

Deuteronomium 34