Deuteronomium 33:27-29 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

27. Dy noddfa yw Duw tragwyddol, ac oddi tanodd y mae y breichiau tragwyddol efe a wthia dy elyn o'th flaen, ac a ddywed, Difetha ef.

28. Israel hefyd a drig ei hun yn ddiogel; ffynnon Jacob a fydd mewn tir ŷd a gwin; ei nefoedd hefyd a ddifera wlith.

29. Gwynfydedig wyt, O Israel; pwy sydd megis ti, O bobl gadwedig gan yr Arglwydd, tarian dy gynhorthwy, yr hwn hefyd yw cleddyf dy ardderchowgrwydd! a'th elynion a ymostyngant i ti, a thi a sethri ar eu huchel leoedd hwynt.

Deuteronomium 33