Deuteronomium 33:2-10 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

2. Ac efe a ddywedodd, Yr Arglwydd a ddaeth allan o Sinai, ac a gododd o Seir iddynt; ymlewyrchodd o fynydd Paran, ac efe a ddaeth gyda myrddiwn o saint, a thanllyd gyfraith o'i ddeheulaw iddynt.

3. Caru y mae efe y bobl: ei holl saint ydynt yn dy law: a hwy a ymlynasant wrth dy draed; pob un a dderbyn o'th eiriau.

4. Moses a orchmynnodd gyfraith i ni, yn etifeddiaeth i gynulleidfa Jacob.

5. Ac efe oedd frenin yn Israel, pan ymgasglodd pennau y bobl ynghyd â llwythau Israel.

6. Bydded fyw Reuben, ac na fydded farw, ac na bydded ei ddynion ychydig o rifedi.

7. Bydded hyn hefyd i Jwda. Ac efe a ddywedodd, Clyw, O Arglwydd, lais Jwda, ac at ei bobl dwg ef: digon fyddo iddo ei ddwylo ei hun, a bydd gymorth rhag ei elynion.

8. Ac am Lefi y dywedodd, Bydded dy Thummim a'th Urim i'th ŵr sanctaidd yr hwn a brofaist ym Massa, ac a gynhennaist ag ef wrth ddyfroedd Meriba;

9. Yr hwn a ddywedodd am ei dad ac am ei fam, Ni welais ef; a'i frodyr nis adnabu, ac nid adnabu ei blant ei hun: canys cadwasant dy eiriau, a chynaliasant dy gyfamod.

10. Dysgant dy farnedigaethau i Jacob, a'th gyfraith i Israel: gosodant arogldarth ger dy fron, a llosg‐aberth ar dy allor.

Deuteronomium 33