Deuteronomium 32:37-51 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

37. Ac efe a ddywed, Pa le y mae eu duwiau hwynt, a'r graig yr ymddiriedasant ynddi,

38. Y rhai a fwytasant fraster eu haberthau, ac a yfasant win eu diod‐offrwm? codant a chynorthwyant chwi, a byddant loches i chwi.

39. Gwelwch bellach mai myfi, myfi yw efe; ac nad oes duw ond myfi: myfi sydd yn lladd, ac yn bywhau; myfi a archollaf, ac mi a feddyginiaethaf: ac ni bydd a achubo o'm llaw.

40. Canys codaf fy llaw i'r nefoedd, a dywedaf, Mi a fyddaf fyw byth.

41. Os hogaf fy nghleddyf disglair, ac ymaflyd o'm llaw mewn barn; dychwelaf ddial ar fy ngelynion, a thalaf y pwyth i'm caseion.

42. Meddwaf fy saethau â gwaed, (a'm cleddyf a fwyty gig,) â gwaed y lladdedig a'r caeth, o ddechrau dial ar y gelyn.

43. Y cenhedloedd, llawenhewch gyda'i bobl ef: canys efe a ddial waed ei weision, ac a ddychwel ddial ar ei elynion, ac a drugarha wrth ei dir a'i bobl ei hun.

44. A daeth Moses ac a lefarodd holl eiriau y gân hon lle y clybu'r bobl, efe a Josua mab Nun.

45. A darfu i Moses lefaru yr holl eiriau hyn wrth holl Israel:

46. A dywedodd wrthynt, Meddyliwch yn eich calonnau am yr holl eiriau yr ydwyf yn eu tystiolaethu wrthych heddiw; y rhai a orchmynnwch i'ch plant, i edrych am wneuthur holl eiriau y gyfraith hon.

47. Canys nid gair ofer yw hwn i chwi: oherwydd eich einioes chwi yw efe; a thrwy y gair hwn yr estynnwch ddyddiau yn y tir yr ydych yn myned iddo dros yr Iorddonen i'w feddiannu.

48. A'r Arglwydd a lefarodd wrth Moses yng nghorff y dydd hwnnw, gan ddywedyd,

49. Esgyn i'r mynydd Abarim hwn, sef mynydd Nebo, yr hwn sydd yn nhir Moab, ar gyfer Jericho; ac edrych ar wlad Canaan, yr hon yr ydwyf fi yn ei rhoddi i feibion Israel yn etifeddiaeth.

50. A bydd farw yn y mynydd yr esgynni iddo, a chasgler di at dy bobl, megis y bu farw Aaron dy frawd ym mynydd Hor, ac y casglwyd ef at ei bobl:

51. Oherwydd gwrthryfelasoch i'm herbyn ymysg meibion Israel, wrth ddyfroedd cynnen Cades, yn anialwch Sin; oblegid ni'm sancteiddiasoch ymhlith meibion Israel.

Deuteronomium 32