Deuteronomium 32:29-39 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

29. O na baent ddoethion, na ddeallent hyn, nad ystyrient eu diwedd!

30. Pa fodd yr ymlidiai un fil, ac y gyrrai dau ddengmil i ffoi, onid am werthu o'u Craig hwynt, a chau o'r Arglwydd arnynt?

31. Canys nid fel ein Craig ni y mae eu craig hwynt; a bydded ein gelynion yn farnwyr.

32. Canys o winwydden Sodom, ac o feysydd Gomorra, y mae eu gwinwydden hwynt: eu grawnwin hwynt sydd rawnwin bustlaidd; grawnsypiau chwerwon sydd iddynt.

33. Gwenwyn dreigiau yw eu gwin hwynt, a chreulon wenwyn asbiaid.

34. Onid yw hyn yng nghudd gyda myfi, wedi ei selio ymysg fy nhrysorau?

35. I mi y perthyn dial, a thalu'r pwyth; mewn pryd y llithr eu troed hwynt: canys agos yw dydd eu trychineb, a phrysuro y mae yr hyn a baratowyd iddynt.

36. Canys yr Arglwydd a farna ei bobl, ac a edifarha am ei weision; pan welo ymado o'u nerth, ac nad oes na gwarchaeëdig, na gweddilledig.

37. Ac efe a ddywed, Pa le y mae eu duwiau hwynt, a'r graig yr ymddiriedasant ynddi,

38. Y rhai a fwytasant fraster eu haberthau, ac a yfasant win eu diod‐offrwm? codant a chynorthwyant chwi, a byddant loches i chwi.

39. Gwelwch bellach mai myfi, myfi yw efe; ac nad oes duw ond myfi: myfi sydd yn lladd, ac yn bywhau; myfi a archollaf, ac mi a feddyginiaethaf: ac ni bydd a achubo o'm llaw.

Deuteronomium 32