Deuteronomium 32:13-24 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

13. Gwnaeth iddo farchogaeth ar uchelder y ddaear, a bwyta cnwd y maes, a sugno mêl o'r graig, ac olew o'r graig gallestr;

14. Ymenyn gwartheg, a llaeth defaid, ynghyd â braster ŵyn, a hyrddod o rywogaeth Basan, a bychod, ynghyd â braster grawn gwenith, a phurwaed grawnwin a yfaist.

15. A'r uniawn a aeth yn fras, ac a wingodd; braseaist, tewychaist, pwyntiaist: yna efe a wrthododd Dduw, yr hwn a'i gwnaeth, ac a ddiystyrodd Graig ei iachawdwriaeth.

16. A dieithr dduwiau y gyrasant eiddigedd arno; â ffieidd‐dra y digiasant ef.

17. Aberthasant i gythreuliaid, nid i Dduw; i dduwiau nid adwaenent, i rai newydd diweddar, y rhai nid ofnodd eich tadau.

18. Y Graig a'th genhedlodd a anghofiaist ti, a'r Duw a'th luniodd a ollyngaist ti dros gof.

19. Yna y gwelodd yr Arglwydd, ac a'u ffieiddiodd hwynt; oherwydd ei ddigio gan ei feibion, a'i ferched.

20. Ac efe a ddywedodd, Cuddiaf fy wyneb oddi wrthynt, edrychaf beth fydd eu diwedd hwynt: canys cenhedlaeth drofaus ydynt hwy, meibion heb ffyddlondeb ynddynt.

21. Hwy a yrasant eiddigedd arnaf â'r peth nid oedd Dduw; digiasant fi â'u hoferedd: minnau a yrraf eiddigedd arnynt hwythau â'r rhai nid ydynt bobl; â chenedl ynfyd y digiaf hwynt.

22. Canys tân a gyneuwyd yn fy nig, ac a lysg hyd uffern isod, ac a ddifa y tir a'i gynnyrch, ac a wna i sylfeini'r mynyddoedd ffaglu.

23. Casglaf ddrygau arnynt; treuliaf fy saethau arnynt.

24. Llosgedig fyddant gan newyn, ac wedi eu bwyta gan wres poeth, a chwerw ddinistr: anfonaf hefyd arnynt ddannedd bwystfilod, ynghyd â gwenwyn seirff y llwch.

Deuteronomium 32