Deuteronomium 32:1-9 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Gwrandewch, y nefoedd, a llefaraf; a chlywed y ddaear eiriau fy ngenau.

2. Fy athrawiaeth a ddefnynna fel glaw: fy ymadrodd a ddifera fel gwlith; fel gwlithlaw ar irwellt, ac fel cawodydd ar laswellt.

3. Canys enw yr Arglwydd a gyhoeddaf fi: rhoddwch fawredd i'n Duw ni.

4. Efe yw y Graig; perffaith yw ei weithred; canys ei holl ffyrdd ydynt farn: Duw gwirionedd, a heb anwiredd, cyfiawn ac uniawn yw efe.

5. Y genhedlaeth ŵyrog a throfaus a ymlygrodd yn ei erbyn trwy eu bai, heb fod yn blant iddo ef.

6. Ai hyn a delwch i'r Arglwydd, bobl ynfyd ac angall? onid efe yw dy dad a'th brynwr? onid efe a'th wnaeth, ac a'th sicrhaodd?

7. Cofia y dyddiau gynt; ystyriwch flynyddoedd cenhedlaeth a chenhedlaeth: gofyn i'th dad, ac efe a fynega i ti; i'th henuriaid, a hwy a ddywedant wrthyt.

8. Pan gyfrannodd y Goruchaf etifeddiaeth y cenhedloedd, pan neilltuodd efe feibion Adda, y gosododd efe derfynau y bobloedd yn ôl rhifedi meibion Israel.

9. Canys rhan yr Arglwydd yw ei bobl; Jacob yw rhan ei etifeddiaeth ef.

Deuteronomium 32