Deuteronomium 3:1-3 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Yna y troesom, ac yr esgynasom ar hyd ffordd Basan; ac Og brenin Basan a ddaeth allan i'n cyfarfod ni, efe a'i holl bobl, i ryfel, i Edrei.

2. A'r Arglwydd a ddywedodd wrthyf, Nac ofna ef: oblegid yn dy law di y rhoddaf ef, a'i holl bobl, a'i wlad; a thi a wnei iddo fel y gwnaethost i Sehon brenin yr Amoriaid, yr hwn oedd yn trigo yn Hesbon.

3. Felly yr Arglwydd ein Duw a roddes hefyd yn ein llaw ni Og brenin Basan, a'i holl bobl; ac ni a'i trawsom ef, hyd na adawyd iddo un yng ngweddill:

Deuteronomium 3