Deuteronomium 29:23-29 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

23. A'i thir wedi ei losgi oll gan frwmstan a halen, na heuir ef, ac na flaendardda, ac na ddaw i fyny un llysieuyn ynddo fel dinistr Sodom a Gomorra, Adma a Seboim, y rhai a ddinistriodd yr Arglwydd yn ei lid a'i ddigofaint:

24. Ie, yr holl genhedloedd a ddywedant Paham y gwnaeth yr Arglwydd fel hyn i'r tir hwn? pa ddicter yw y digofaint mawr hwn?

25. Yna y dywedir, Am wrthod ohonynt gyfamod Arglwydd Dduw eu tadau, yr hwn a amododd efe รข hwynt pan ddug efe hwynt allan o dir yr Aifft.

26. Canys aethant a gwasanaethasant dduwiau dieithr, ac ymgrymasant iddynt; sef duwiau nid adwaenent hwy, ac ni roddasai efe iddynt.

27. Am hynny yr enynnodd dicllonedd yr Arglwydd yn erbyn y wlad hon, i ddwyn arni bob melltith a'r y sydd ysgrifenedig yn y llyfr hwn.

28. A'r Arglwydd a'u dinistriodd hwynt o'u tir mewn digofaint, ac mewn dicter, ac mewn llid mawr, ac a'u gyrrodd hwynt i wlad arall, megis y gwelir heddiw.

29. Y dirgeledigaethau sydd eiddo yr Arglwydd ein Duw, a'r pethau amlwg a roddwyd i ni, ac i'n plant hyd byth; fel y gwnelom holl eiriau y gyfraith hon.

Deuteronomium 29