Deuteronomium 28:64-67 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

64. A'r Arglwydd a'th wasgar di ymhlith yr holl bobloedd, o'r naill gwr i'r ddaear hyd y cwr arall i'r ddaear: a thi a wasanaethi yno dduwiau dieithr, y rhai nid adnabuost ti na'th dadau; sef pren a maen.

65. Ac ymhlith y cenhedloedd hyn ni orffwysi, ac ni bydd gorffwystra i wadn dy droed: canys yr Arglwydd a rydd i ti yno galon ofnus, a darfodedigaeth llygaid, a thristwch meddwl.

66. A'th einioes a fydd ynghrog gyferbyn รข thi; a thi a ofni nos a dydd, ac ni byddi sicr o'th einioes.

67. Y bore y dywedi, O na ddeuai yr hwyr! ac yn yr hwyr y dywedi, O na ddeuai y bore! o achos ofn dy galon gan yr hwn yr ofni, a rhag gweledigaeth dy lygaid yr hon a welych.

Deuteronomium 28