Deuteronomium 27:22-26 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

22. Melltigedig yw yr hwn a orweddo gyda'i chwaer, merch ei dad, neu ferch ei fam ef. A dyweded yr holl bobl, Amen.

23. Melltigedig yw yr hwn a orweddo gyda'i chwegr. A dyweded yr holl bobl, Amen.

24. Melltigedig yw yr hwn a drawo ei gymydog yn ddirgel. A dyweded yr holl bobl, Amen.

25. Melltigedig yw yr hwn a gymero wobr, er dieneidio gwaed gwirion. A dyweded yr holl bobl, Amen.

26. Melltigedig yw yr hwn ni pharhao yng ngeiriau y gyfraith hon, gan eu gwneuthur hwynt. A dyweded yr holl bobl, Amen.

Deuteronomium 27