Deuteronomium 27:18-21 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

18. Melltigedig yw yr hwn a baro i'r dall gyfeiliorni allan o'r ffordd. A dyweded yr holl bobl, Amen.

19. Melltigedig yw yr hwn a ŵyro farn y dieithr, yr amddifad, a'r weddw. A dyweded yr holl bobl, Amen.

20. Melltigedig yw yr hwn a orweddo gyda gwraig ei dad; oherwydd datguddiodd odre ei dad. A dyweded yr holl bobl, Amen.

21. Melltigedig yw yr hwn a orweddo gydag un anifail. A dyweded yr holl bobl, Amen.

Deuteronomium 27