Deuteronomium 25:12-16 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

12. Tor ymaith ei llaw hi: nac arbeded dy lygad hi.

13. Na fydded gennyt yn dy god amryw bwys, mawr a bychan.

14. Na fydded gennyt yn dy dŷ amryw fesur, mawr a bychan.

15. Bydded gennyt garreg uniawn a chyfiawn; bydded gennyt effa uniawn a chyfiawn: fel yr estynner dy ddyddiau ar y ddaear yr hon y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei rhoddi i ti.

16. Canys ffiaidd gan yr Arglwydd dy Dduw bob un a wnelo hyn, sef pawb a'r a wnêl anghyfiawnder.

Deuteronomium 25