Deuteronomium 23:23-25 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

23. Cadw a gwna yr hyn a ddaeth allan o'th wefusau; megis yr addunedaist i'r Arglwydd dy Dduw offrwm gwirfodd, yr hwn a draethaist â'th enau.

24. Pan ddelych i winllan dy gymydog, yna bwyta o rawnwin dy wala, wrth dy feddwl; ond na ddod yn dy lestr yr un.

25. Pan ddelych i ŷd dy gymydog, yna y cei dynnu y tywysennau â'th law; ond ni chei osod cryman yn ŷd dy gymydog.

Deuteronomium 23