Deuteronomium 22:5-23 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

5. Na fydded dilledyn gŵr am wraig, ac na wisged gŵr ddillad gwraig:oherwydd ffiaidd gan yr Arglwydd dy Dduw bawb a'r a wnêl hyn.

6. Pan ddamweinio nyth aderyn i'th olwg ar dy ffordd, mewn un pren, neu ar y ddaear, â chywion, neu ag wyau ynddo, a'r fam yn eistedd ar y cywion, neu ar yr wyau; na chymer y fam gyda'r cywion.

7. Gan ollwng ti a ollyngi y fam, a'r cywion a gymeri i ti; fel y byddo daioni i ti, ac yr estynnech dy ddyddiau.

8. Pan adeiledych dŷ newydd, yna y gwnei ganllawiau o amgylch i'th nen; fel na osodych waed ar dy dŷ, pan syrthio neb oddi arno.

9. Na heua dy winllan ag amryw had; rhag i ti halogi cynnyrch yr had a heuech, a chnwd y winllan.

10. Nac ardd ag ych ac ag asyn ynghyd.

11. Na wisg ddilledyn o amryw ddefnydd, megis o wlân a llin ynghyd.

12. Plethau a weithi i ti ar bedwar cwr dy wisg yr ymwisgych â hi.

13. O chymer gŵr wraig, ac wedi myned ati, ei chasáu;

14. A gosod yn ei herbyn anair, a rhoddi allan enw drwg iddi, a dywedyd, Y wraig hon a gymerais; a phan euthum ati, ni chefais ynddi forwyndod:

15. Yna cymered tad y llances a'i mam, a dygant arwyddion morwyndod y llances at henuriaid y ddinas i'r porth.

16. A dyweded tad y llances wrth yr henuriaid, Fy merch a roddais i'r gŵr hwn yn wraig, a'i chasáu y mae efe.

17. Ac wele, efe a gododd iddi anair, gan ddywedyd, Ni chefais yn dy ferch forwyndod; ac fel dyma arwyddion morwyndod fy merch. Yna lledant y dilledyn yng ngŵydd henuriaid y ddinas.

18. A henuriaid y ddinas honno a gymerant y gŵr, ac a'i cosbant ef.

19. A hwy a'i dirwyant ef mewn can sicl o arian, ac a'u rhoddant hwynt i dad y llances; o achos iddo ddwyn enw drwg ar y forwyn o Israel: a bydd hi yn wraig iddo; ac ni ddichon ei gyrru ymaith yn ei holl ddyddiau.

20. Ond os gwir fydd y peth, ac na chafwyd arwyddion morwyndod yn y llances:

21. Yna y dygant y llances at ddrws tŷ ei thad, a dynion ei dinas a'i llabyddiant hi â meini, oni byddo farw; am iddi wneuthur ffolineb yn Israel, gan buteinio yn nhŷ ei thad: a thi a dynni ymaith y drwg o'th fysg.

22. O cheffir gŵr yn gorwedd gyda gwraig briodol â gŵr; byddant feirw ill dau, sef y gŵr a orweddodd gyda'r wraig, a'r wraig hefyd: felly y tynni ymaith ddrwg o Israel.

23. O bydd llances o forwyn wedi ei dyweddïo i ŵr, a chael o ŵr hi mewn dinas, a gorwedd gyda hi;

Deuteronomium 22