Deuteronomium 22:22-30 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

22. O cheffir gŵr yn gorwedd gyda gwraig briodol â gŵr; byddant feirw ill dau, sef y gŵr a orweddodd gyda'r wraig, a'r wraig hefyd: felly y tynni ymaith ddrwg o Israel.

23. O bydd llances o forwyn wedi ei dyweddïo i ŵr, a chael o ŵr hi mewn dinas, a gorwedd gyda hi;

24. Yna y dygwch hwynt ill dau i borth y ddinas honno, ac a'u llabyddiwch hwynt â meini, fel y byddont feirw: y llances, oblegid na waeddodd, a hithau yn y ddinas; a'r gŵr, oherwydd iddo ddarostwng gwraig ei gymydog: felly ti a dynni ymaith y drygioni o'th fysg.

25. Ond os mewn maes y cafodd y gŵr y llances wedi ei dyweddïo, a'i threisio o'r gŵr, a gorwedd gyda hi; yna bydded farw y gŵr a orweddodd gyda hi yn unig.

26. Ond i'r llances ni chei wneuthur dim; nid oes yn y llances bechod yn haeddu marwolaeth: oherwydd megis y cyfyd gŵr yn erbyn ei gymydog, a'i ddieneidio ef, yr un modd y mae y peth hyn:

27. Oblegid yn y maes y cafodd efe hi: gwaeddodd y llances oedd wedi ei dyweddïo; ac nid oedd achubydd iddi.

28. O chaiff gŵr lances o forwyn, heb ei dyweddïo, ac ymaflyd ynddi, a gorwedd gyda hi, a'u dala hwynt:

29. Yna y rhydd y gŵr a orweddodd gyda hi, i dad y llances, ddeg a deugain o arian; ac iddo y bydd yn wraig, am iddo ei darostwng hi: ni ddichon efe ei gyrru hi ymaith yn ei holl ddyddiau.

30. Na chymered neb wraig ei dad, ac na ddinoethed odre ei dad.

Deuteronomium 22