Deuteronomium 22:1-3 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Ni chei weled eidion dy frawd neu ei ddafad yn cyfeiliorni, ac ymguddio oddi wrthynt: gan ddwyn dwg hwynt drachefn i'th frawd.

2. Ac oni bydd dy frawd yn gyfagos atat, neu onid adwaenost ef; yna dwg hwnnw i fewn dy dŷ, a bydded gyda thi, hyd pan ymofynno dy frawd amdano; yna dyro ef yn ei ôl iddo ef.

3. Ac felly y gwnei i'w asyn ef, ac felly y gwnei i'w ddillad ef, ac felly y gwnei i bob collbeth i'th frawd, yr hwn a gyll oddi wrtho ef, a thithau yn ei gael: ni elli ymguddio.

Deuteronomium 22