Deuteronomium 21:7-17 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

7. A hwy a atebant ac a ddywedant, Ni thywalltodd ein dwylo ni y gwaed hwn, ac nis gwelodd ein llygaid.

8. Trugarha wrth dy bobl Israel, y rhai a waredaist, O Arglwydd, ac na ddyro waed gwirion yn erbyn dy bobl Israel. A maddeuir y gwaed iddynt hwy.

9. Felly y tynni ymaith affaith y gwaed gwirion o'th fysg, os ti a wnei yr uniawnder yng ngolwg yr Arglwydd.

10. Pan elych i ryfel yn erbyn dy elynion, a rhoddi o'r Arglwydd dy Dduw hwynt yn dy law di, a chaethgludo ohonot gaethglud ohonynt;

11. A gweled ohonot yn y gaethglud wraig brydweddol, a'i bod wrth dy fodd, i'w chymryd i ti yn wraig:

12. Yna dwg hi i fewn dy dŷ, ac eillied hi ei phen, a thorred ei hewinedd;

13. A diosged ddillad ei chaethiwed oddi amdani, a thriged yn dy dŷ di, ac wyled am ei thad a'i mam fis o ddyddiau: ac wedi hynny yr ei di ati, ac y byddi ŵr iddi, a hithau fydd wraig i ti.

14. Ac oni bydd hi wrth dy fodd; yna gollwng hi yn ôl ei hewyllys ei hun, a chan werthu na werth hi er arian; na chais elw ohoni, am i ti ei darostwng hi.

15. Pan fyddo i ŵr ddwy wraig, un yn gu, ac un yn gas; a phlanta o'r gu a'r gas feibion iddo ef, a bod y mab cyntaf‐anedig o'r un gas:

16. Yna bydded, yn y dydd y rhanno efe ei etifeddiaeth rhwng ei feibion y rhai fyddant iddo, na ddichon efe wneuthur yn gyntaf‐anedig fab y gu o flaen mab y gas, yr hwn sydd gyntaf‐anedig;

17. Ond mab y gas yr hwn sydd gyntaf‐anedig a gydnebydd efe, gan roddi iddo ef y ddeuparth o'r hyn oll a gaffer yn eiddo ef: o achos hwn yw dechreuad ei nerth ef; iddo y bydd braint y cyntaf‐anedig.

Deuteronomium 21