Deuteronomium 21:18-21 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

18. Ond o bydd i ŵr fab cyndyn ac anufudd, heb wrando ar lais ei dad, neu ar lais ei fam; a phan geryddant ef, ni wrendy arnynt:

19. Yna ei dad a'i fam a ymaflant ynddo, ac a'i dygant at henuriaid ei ddinas, ac i borth ei drigfan;

20. A dywedant wrth henuriaid ei ddinas ef, Ein mab hwn sydd gyndyn ac anufudd, heb wrando ar ein llais; glwth a meddwyn yw efe.

21. Yna holl ddynion ei ddinas a'i llabyddiant ef â meini, fel y byddo farw: felly y tynni ymaith y drwg o'th fysg; a holl Israel a glywant, ac a ofnant.

Deuteronomium 21