Deuteronomium 21:15-23 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

15. Pan fyddo i ŵr ddwy wraig, un yn gu, ac un yn gas; a phlanta o'r gu a'r gas feibion iddo ef, a bod y mab cyntaf‐anedig o'r un gas:

16. Yna bydded, yn y dydd y rhanno efe ei etifeddiaeth rhwng ei feibion y rhai fyddant iddo, na ddichon efe wneuthur yn gyntaf‐anedig fab y gu o flaen mab y gas, yr hwn sydd gyntaf‐anedig;

17. Ond mab y gas yr hwn sydd gyntaf‐anedig a gydnebydd efe, gan roddi iddo ef y ddeuparth o'r hyn oll a gaffer yn eiddo ef: o achos hwn yw dechreuad ei nerth ef; iddo y bydd braint y cyntaf‐anedig.

18. Ond o bydd i ŵr fab cyndyn ac anufudd, heb wrando ar lais ei dad, neu ar lais ei fam; a phan geryddant ef, ni wrendy arnynt:

19. Yna ei dad a'i fam a ymaflant ynddo, ac a'i dygant at henuriaid ei ddinas, ac i borth ei drigfan;

20. A dywedant wrth henuriaid ei ddinas ef, Ein mab hwn sydd gyndyn ac anufudd, heb wrando ar ein llais; glwth a meddwyn yw efe.

21. Yna holl ddynion ei ddinas a'i llabyddiant ef â meini, fel y byddo farw: felly y tynni ymaith y drwg o'th fysg; a holl Israel a glywant, ac a ofnant.

22. Ac o bydd mewn gŵr bechod yn haeddu barnedigaeth angau, a'i farwolaethu a chrogi ohonot ef wrth bren;

23. Na thriged ei gelain dros nos wrth y pren, ond gan gladdu ti a'i cleddi ef o fewn y dydd hwnnw: oherwydd melltith Dduw sydd i'r hwn a grogir: ac na haloga dy dir y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti yn etifeddiaeth.

Deuteronomium 21