Deuteronomium 21:1-6 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Os ceir un wedi ei ladd o fewn y tir yr hwn y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti i'w etifeddu, yn gorwedd yn y maes, heb wybod pwy a'i lladdodd;

2. Yna aed dy henuriaid a'th farnwyr allan, a mesurant hyd y dinasoedd sydd o amgylch i'r lladdedig.

3. A bydded i'r ddinas nesaf at y lladdedig, sef henuriaid y ddinas honno, gymryd anner o'r gwartheg, yr hon ni weithiwyd รข hi, ac ni thynnodd dan iau.

4. A dyged henuriaid y ddinas honno yr anner i ddyffryn garw, yr hwn ni lafuriwyd, ac ni heuwyd ynddo; ac yno torfynyglant yr anner yn y dyffryn.

5. A nesaed yr offeiriaid, meibion Lefi, (oherwydd yr Arglwydd dy Dduw a'u hetholodd hwynt i weini iddo ef, ac i fendigo yn enw yr Arglwydd,) ac wrth eu barn hwynt y terfynir pob ymryson a phob pla.

6. A holl henuriaid y ddinas honno, y rhai a fyddo nesaf at y lladdedig, a olchant eu dwylo uwchben yr anner a dorfynyglwyd yn y dyffryn.

Deuteronomium 21