6. Prynwch fwyd ganddynt am arian, fel y bwytaoch: a phrynwch hefyd ddwfr ganddynt am arian, fel yr yfoch.
7. Canys yr Arglwydd dy Dduw a'th fendithiodd di yn holl waith dy law: gwybu dy gerdded yn yr anialwch mawr hwn: y deugain mlynedd hyn y bu yr Arglwydd dy Dduw gyda thi; ni bu arnat eisiau dim.
8. Ac wedi ein myned heibio oddi wrth ein brodyr, meibion Esau, y rhai ydynt yn trigo yn Seir, o ffordd y rhos o Elath, ac o Esion‐Gaber, ni a ddychwelasom, ac a aethom ar hyd ffordd anialwch Moab.
9. A'r Arglwydd a ddywedodd wrthyf, Na orthryma Moab, ac nac ymgynnull i ryfel yn eu herbyn hwynt: oblegid ni roddaf i ti feddiant o'i dir ef; oherwydd i feibion Lot y rhoddais Ar yn etifeddiaeth
10. (Yr Emiaid o'r blaen a gyfaneddasant ynddi; pobl fawr ac aml, ac uchel, fel yr Anaciaid;
11. Yn gewri y cymerwyd hwynt hefyd, fel yr Anaciaid; a'r Moabiaid a'u galwent hwy yn Emiaid.
12. Yr Horiaid hefyd a breswyliasant yn Seir o'r blaen; a meibion Esau a ddaeth ar eu hôl hwynt, ac a'u difethasant o'u blaen, a thrigasant yn eu lle hwynt; fel y gwnaeth Israel i wlad ei etifeddiaeth yntau, yr hon a roddes yr Arglwydd iddynt.)
13. Yna y dywedais, Cyfodwch yn awr, a thramwywch rhagoch dros afon Sared. A ni a aethom dros afon Sared.
14. A'r dyddiau y cerddasom o Cades‐Barnea, hyd pan ddaethom dros afon Sared, oedd onid dwy flynedd deugain; nes darfod holl genhedlaeth y gwŷr o ryfel o ganol y gwersyllau, fel y tyngasai yr Arglwydd wrthynt.
15. Canys llaw yr Arglwydd ydoedd yn eu herbyn hwynt, i'w torri hwynt o ganol y gwersyll, hyd oni ddarfuant.
16. A bu, wedi darfod yr holl ryfelwyr a'u marw o blith y bobloedd,
17. Lefaru o'r Arglwydd wrthyf, gan ddywedyd,
18. Tydi heddiw wyt ar fyned trwy derfynau Moab, sef trwy Ar:
19. A phan ddelych di gyferbyn â meibion Ammon, na orthryma hwynt, ac nac ymyrr arnynt; oblegid ni roddaf feddiant o dir meibion Ammon i ti; canys rhoddais ef yn etifeddiaeth i feibion Lot.
20. (Yn wlad cewri hefyd y cyfrifwyd hi: cewri a breswyliasant ynddi o'r blaen; a'r Ammoniaid a'u galwent hwy yn Samsummiaid:
21. Pobl fawr ac aml, ac uchel, fel yr Anaciaid, a'r Arglwydd a'u difethodd hwynt o'u blaen hwy; a hwy a ddaethant ar eu hôl hwynt, ac a drigasant yn eu lle hwynt.