6. Prynwch fwyd ganddynt am arian, fel y bwytaoch: a phrynwch hefyd ddwfr ganddynt am arian, fel yr yfoch.
7. Canys yr Arglwydd dy Dduw a'th fendithiodd di yn holl waith dy law: gwybu dy gerdded yn yr anialwch mawr hwn: y deugain mlynedd hyn y bu yr Arglwydd dy Dduw gyda thi; ni bu arnat eisiau dim.
8. Ac wedi ein myned heibio oddi wrth ein brodyr, meibion Esau, y rhai ydynt yn trigo yn Seir, o ffordd y rhos o Elath, ac o EsionāGaber, ni a ddychwelasom, ac a aethom ar hyd ffordd anialwch Moab.
9. A'r Arglwydd a ddywedodd wrthyf, Na orthryma Moab, ac nac ymgynnull i ryfel yn eu herbyn hwynt: oblegid ni roddaf i ti feddiant o'i dir ef; oherwydd i feibion Lot y rhoddais Ar yn etifeddiaeth
10. (Yr Emiaid o'r blaen a gyfaneddasant ynddi; pobl fawr ac aml, ac uchel, fel yr Anaciaid;
11. Yn gewri y cymerwyd hwynt hefyd, fel yr Anaciaid; a'r Moabiaid a'u galwent hwy yn Emiaid.