Deuteronomium 19:1-5 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Pan dorro yr Arglwydd dy Dduw ymaith y cenhedloedd y mae yr Arglwydd dy Dduw yn rhoddi eu tir i ti, a'i feddiannu ohonot ti, a phreswylio yn eu dinasoedd ac yn eu tai;

2. Neilltua i ti dair dinas yng nghanol dy dir, yr hwn y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti i'w feddiannu.

3. Paratoa ffordd i ti, a thraeana derfyn dy dir, yr hwn a rydd yr Arglwydd dy Dduw yn etifeddiaeth i ti, fel y byddo i bob llofrudd ffoi yno.

4. Dyma gyfraith y llofrudd, yr hwn a ffy yno, i fyw: yr hwn a drawo ei gymydog heb wybod, ac yntau heb ei gasáu ef o'r blaen;

5. Megis pan elo un gyda'i gymydog i'r coed i gymynu pren, ac a estyn ei law â'r fwyell i dorri y pren, a syrthio yr haearn o'r menybr, a chyrhaeddyd ei gymydog, fel y byddo farw; efe a gaiff ffoi i un o'r dinasoedd hyn, a byw:

Deuteronomium 19