Deuteronomium 18:9-22 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

9. Pan elych di i'r tir y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti, na ddysg wneuthur yn ôl ffieidd‐dra'r cenhedloedd hynny.

10. Na chaffer ynot a wnelo i'w fab, neu i'w ferch, fyned trwy y tân; neu a arfero ddewiniaeth, na phlanedydd, na daroganwr, na hudol,

11. Na swynwr swynion, nac a geisio wybodaeth gan gonsuriwr, neu frudiwr, nac a ymofynno â'r meirw:

12. Oherwydd ffieidd‐dra gan yr Arglwydd yw pawb a wnelo hyn; ac o achos y ffieidd‐dra hyn y mae yr Arglwydd dy Dduw yn eu gyrru hwynt allan o'th flaen di.

13. Bydd berffaith gyda'r Arglwydd dy Dduw.

14. Canys y cenhedloedd hyn, y rhai a feddienni di, a wrandawsant ar blanedyddion, ac ar ddewiniaid: ond amdanat ti, nid felly y caniataodd yr Arglwydd dy Dduw i ti.

15. Yr Arglwydd dy Dduw a gyfyd i ti, o'th blith dy hun, o'th frodyr dy hun, Broffwyd megis finnau; arno ef y gwrandewch

16. Yn ôl yr hyn oll a geisiaist gan yr Arglwydd dy Dduw yn Horeb, yn nydd y gymanfa, gan ddywedyd, Na chlywyf mwyach lais yr Arglwydd fy Nuw, ac na welwyf y tân mawr hwn mwyach, rhag fy marw.

17. A dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Da y dywedasant yr hyn a ddywedasant

18. Codaf Broffwyd iddynt o fysg eu brodyr, fel tithau, a rhoddaf fy ngeiriau yn ei enau ef; ac efe a lefara wrthynt yr hyn oll a orchmynnwyf iddo.

19. A phwy bynnag ni wrandawo ar fy ngeiriau, y rhai a lefara efe yn fy enw, myfi a'i gofynnaf ganddo.

20. Y proffwyd hefyd, yr hwn a ryfyga lefaru yn fy enw air ni orchmynnais iddo ei lefaru, neu yr hwn a lefaro yn enw duwiau dieithr; rhodder y proffwyd hwnnw i farwolaeth.

21. Ac os dywedi yn dy galon, Pa fodd yr adnabyddwn y gair ni lefarodd yr Arglwydd?

22. Yr hyn a lefaro'r proffwyd hwnnw yn enw yr Arglwydd, a'r gair heb fod, ac heb ddyfod i ben, hwnnw yw y gair ni lefarodd yr Arglwydd; y proffwyd a'i llefarodd mewn rhyfyg: nac ofna ef.

Deuteronomium 18