Deuteronomium 17:6-20 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

6. Wrth dystiolaeth dau o dystion, neu dri o dystion, y rhoddir i farwolaeth yr hwn a fyddo marw: na rodder ef i farwolaeth wrth dystiolaeth un tyst.

7. Llaw y tystion a fydd arno yn gyntaf i'w farwolaethu ef, a llaw yr holl bobl wedi hynny: a thi a dynni ymaith y drwg o'th blith.

8. Os bydd peth mewn barn yn rhy galed i ti, rhwng gwaed a gwaed, rhwng hawl a hawl, neu rhwng pla a phla, mewn pethau ymrafaelus o fewn dy byrth; yna cyfod, a dos i fyny i'r lle a ddewiso yr Arglwydd dy Dduw:

9. A dos at yr offeiriaid y Lefiaid, ac at y barnwr a fyddo yn y dyddiau hynny, ac ymofyn; a hwy a ddangosant i ti reol y farnedigaeth.

10. A gwna yn ôl rheol y gair a ddangosant i ti, o'r lle hwnnw a ddewiso yr Arglwydd; ac edrych am wneuthur yn ôl yr hyn oll a ddysgant i ti.

11. Yn ôl rheol y gyfraith a ddysgont i ti, ac yn ôl y farn a ddywedont i ti, y gwnei: na chilia oddi wrth y peth a ddangosont i ti, i'r tu deau nac i'r tu aswy.

12. A'r gŵr a wnêl mewn rhyfyg, heb wrando ar yr offeiriad sydd yn sefyll yno i wasanaethu yr Arglwydd dy Dduw, neu ar y barnwr; yna rhodder i farwolaeth y gŵr hwnnw: a thyn ymaith y drwg o Israel.

13. A'r holl bobl a glywant, ac a ofnant; ac ni ryfygant mwy.

14. Pan ddelych i'r tir y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti, a'i feddiannu, a thrigo ynddo, os dywedi, Gosodaf arnaf frenin, megis yr holl genhedloedd sydd o'm hamgylch:

15. Gan osod gosod arnat yn frenin yr hwn a ddewiso yr Arglwydd dy Dduw: o blith dy frodyr y gosodi arnat frenin; ni elli roddi arnat ŵr dieithr yr hwn nid yw frawd i ti.

16. Ond nac amlhaed iddo feirch, ac na ddychweled efe y bobl i'r Aifft i amlhau meirch; gan i'r Arglwydd ddywedyd wrthych, Na chwanegwch ddychwelyd y ffordd honno mwy.

17. Ac nac amlhaed iddo wragedd, fel na ŵyro ei galon; ac nac amlhaed arian ac aur lawer iddo.

18. A phan eisteddo ar deyrngadair ei frenhiniaeth, ysgrifenned iddo gopi o'r gyfraith hon mewn llyfr, allan o'r hwn sydd gerbron yr offeiriaid y Lefiaid.

19. A bydded gydag ef, a darllened arno holl ddyddiau ei fywyd: fel y dysgo ofni yr Arglwydd ei Dduw, i gadw holl eiriau y gyfraith hon, a'r deddfau hyn, i'w gwneuthur hwynt:

20. Fel na ddyrchafo ei galon uwchlaw ei frodyr, ac na chilio oddi wrth y gorchymyn, i'r tu deau nac i'r tu aswy: fel yr estynno ddyddiau yn ei frenhiniaeth efe a'i feibion yng nghanol Israel.

Deuteronomium 17