Deuteronomium 17:1-12 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Nac abertha i'r Arglwydd dy Dduw ych neu ddafad y byddo arno anaf, neu ddim gwrthuni: canys casbeth yr Arglwydd dy Dduw yw hynny.

2. Pan gaffer yn dy blith di, o fewn un o'th byrth y rhai y mae yr Arglwydd dy Dduw yn eu rhoddi i ti, ŵr neu wraig a wnaeth ddrygioni yng ngolwg yr Arglwydd dy Dduw, gan droseddu ei gyfamod ef,

3. Ac a aeth ac a wasanaethodd dduwiau dieithr, ac a ymgrymodd iddynt, i'r haul, neu i'r lleuad, neu i holl lu y nefoedd, yr hyn ni orchmynnais;

4. Pan ddangoser i ti, a chlywed ohonot, yna cais yn dda: ac wele, os gwirionedd yw, a bod yn sicr wneuthur y ffieidd‐dra hyn yn Israel;

5. Yna dwg allan y gŵr hwnnw, neu y wraig honno, a wnaethant y peth drygionus hyn, i'th byrth, sef y gŵr neu y wraig, a llabyddia hwynt â meini, fel y byddont feirw.

6. Wrth dystiolaeth dau o dystion, neu dri o dystion, y rhoddir i farwolaeth yr hwn a fyddo marw: na rodder ef i farwolaeth wrth dystiolaeth un tyst.

7. Llaw y tystion a fydd arno yn gyntaf i'w farwolaethu ef, a llaw yr holl bobl wedi hynny: a thi a dynni ymaith y drwg o'th blith.

8. Os bydd peth mewn barn yn rhy galed i ti, rhwng gwaed a gwaed, rhwng hawl a hawl, neu rhwng pla a phla, mewn pethau ymrafaelus o fewn dy byrth; yna cyfod, a dos i fyny i'r lle a ddewiso yr Arglwydd dy Dduw:

9. A dos at yr offeiriaid y Lefiaid, ac at y barnwr a fyddo yn y dyddiau hynny, ac ymofyn; a hwy a ddangosant i ti reol y farnedigaeth.

10. A gwna yn ôl rheol y gair a ddangosant i ti, o'r lle hwnnw a ddewiso yr Arglwydd; ac edrych am wneuthur yn ôl yr hyn oll a ddysgant i ti.

11. Yn ôl rheol y gyfraith a ddysgont i ti, ac yn ôl y farn a ddywedont i ti, y gwnei: na chilia oddi wrth y peth a ddangosont i ti, i'r tu deau nac i'r tu aswy.

12. A'r gŵr a wnêl mewn rhyfyg, heb wrando ar yr offeiriad sydd yn sefyll yno i wasanaethu yr Arglwydd dy Dduw, neu ar y barnwr; yna rhodder i farwolaeth y gŵr hwnnw: a thyn ymaith y drwg o Israel.

Deuteronomium 17