Deuteronomium 14:9-17 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

9. Hyn a fwytewch o'r hyn oll sydd yn y dyfroedd: yr hyn oll sydd iddo esgyll a chen a fwytewch.

10. A'r hyn oll nid oes iddo esgyll a chen, ni fwytewch: aflan yw i chwi.

11. Pob aderyn glân a fwytewch.

12. A dyma'r rhai ni fwytewch ohonynt yr eryr, a'r wyddwalch, a'r fôr‐wennol,

13. A'r bod, a'r barcud, a'r fwltur yn ei rhyw,

14. A phob cigfran yn ei rhyw,

15. A chyw yr estrys, a'r frân nos, a'r gog, a'r hebog yn ei ryw,

16. Aderyn y cyrff, a'r dylluan, a'r gogfran,

17. A'r pelican, a'r biogen, a'r fulfran,

Deuteronomium 14