Deuteronomium 14:28-29 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

28. Ymhen tair blynedd y dygi allan holl ddegwm dy gnwd y flwyddyn honno: a dyro ef i gadw o fewn dy byrth.

29. A'r Lefiad, (am nad oes iddo ran nac etifeddiaeth gyda thi,) a'r dieithr, a'r amddifad, a'r weddw, y rhai fydd yn dy byrth di, a ddeuant, ac a fwytânt, ac a ddigonir; fel y'th fendithio yr Arglwydd dy Dduw ym mhob gwaith a wnelych â'th law.

Deuteronomium 14