Deuteronomium 14:1-3 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Plant ydych chwi i'r Arglwydd eich Duw: na thorrwch mohonoch eich hunain, ac na wnewch foelni rhwng eich llygaid, dros y marw.

2. Canys pobl sanctaidd wyt ti i'r Arglwydd dy Dduw, a'r Arglwydd a'th ddewisodd di i fod yn bobl unig iddo ef, o'r holl bobloedd sydd ar wyneb y ddaear.

3. Na fwyta ddim ffiaidd.

Deuteronomium 14