Deuteronomium 14:1-11 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Plant ydych chwi i'r Arglwydd eich Duw: na thorrwch mohonoch eich hunain, ac na wnewch foelni rhwng eich llygaid, dros y marw.

2. Canys pobl sanctaidd wyt ti i'r Arglwydd dy Dduw, a'r Arglwydd a'th ddewisodd di i fod yn bobl unig iddo ef, o'r holl bobloedd sydd ar wyneb y ddaear.

3. Na fwyta ddim ffiaidd.

4. Dyma'r anifeiliaid a fwytewch: eidion, llwdn dafad, a llwdn gafr,

5. Y carw, a'r iwrch, a'r llwdn hydd, a'r bwch gwyllt, a'r unicorn, a'r ych gwyllt, a'r afr wyllt.

6. A phob anifail yn hollti'r ewin, ac yn fforchogi hollt y ddwy ewin, ac yn cnoi cil, ymysg yr anifeiliaid; hwnnw a fwytewch.

7. Ond hyn ni fwytewch, o'r rhai a gnoant y cil, neu a holltant yr ewin yn fforchog: y camel, a'r ysgyfarnog, a'r gwningen: er bod y rhai hyn yn cnoi eu cil, am nad ydynt yn fforchogi'r ewin, aflan ydynt i chwi.

8. Yr hwch hefyd, er ei bod yn fforchogi'r ewin, ac heb gnoi cil, aflan yw i chwi: na fwytewch o'u cig hwynt, ac na chyffyrddwch â'u burgyn hwynt.

9. Hyn a fwytewch o'r hyn oll sydd yn y dyfroedd: yr hyn oll sydd iddo esgyll a chen a fwytewch.

10. A'r hyn oll nid oes iddo esgyll a chen, ni fwytewch: aflan yw i chwi.

11. Pob aderyn glân a fwytewch.

Deuteronomium 14