Deuteronomium 13:8-18 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

8. Na chydsynia ag ef, ac na wrando arno, ac nac arbeded dy lygad ef, ac nac eiriach ef, ac na chela arno:

9. Ond gan ladd lladd ef; bydded dy law di arno ef yn gyntaf, i'w roddi i farwolaeth, a llaw yr holl bobl wedi hynny.

10. A llabyddia ef â meini, fel y byddo marw: canys ceisiodd dy wthio di oddi wrth yr Arglwydd dy Dduw, yr hwn a'th ddug di allan o dir yr Aifft, o dŷ y caethiwed.

11. A holl Israel a glywant, ac a ofnant, ac ni chwanegant wneuthur y fath beth drygionus â hyn yn dy blith.

12. Pan glywech am un o'th ddinasoedd y rhai y mae yr Arglwydd dy Dduw yn eu rhoddi i ti i drigo ynddynt, gan ddywedyd,

13. Aeth dynion, meibion y fall, allan o'th blith, a gyrasant drigolion eu dinas, gan ddywedyd, Awn, gwasanaethwn dduwiau dieithr, y rhai nid adnabuoch;

14. Yna ymofyn, a chwilia, a chais yn dda: ac wele, os gwirionedd yw, a bod yn sicr wneuthur y ffieidd‐dra hyn yn dy fysg;

15. Gan daro taro drigolion y ddinas honno â min y cleddyf; difroda hi, a'r rhai oll a fyddant ynddi, a'i hanifeiliaid hefyd, â min y cleddyf.

16. A'i holl ysbail hi a gesgli i ganol ei heol hi, ac a losgi'r ddinas a'i holl ysbail hi yn gwbl, i'r Arglwydd dy Dduw, â thân: felly bydded yn garnedd byth; nac adeilader hi mwy.

17. Ac na lyned wrth dy law di ddim o'r diofryd‐beth: fel y dychwelo yr Arglwydd oddi wrth angerdd ei ddig, ac y rhoddo i ti drugaredd, ac y tosturio wrthyt, ac y'th amlhao, megis y tyngodd wrth dy dadau:

18. Pan wrandawech ar lais yr Arglwydd dy Dduw, gan gadw ei holl orchmynion ef, y rhai yr wyf fi yn eu gorchymyn i ti heddiw, gan wneuthur yr hyn sydd uniawn yng ngolwg yr Arglwydd dy Dduw.

Deuteronomium 13