7. Sef rhai o dduwiau y bobl sydd o'ch amgylch chwi, yn agos atat, neu ymhell oddi wrthyt, o un cwr i'r tir hyd gwr arall y tir:
8. Na chydsynia ag ef, ac na wrando arno, ac nac arbeded dy lygad ef, ac nac eiriach ef, ac na chela arno:
9. Ond gan ladd lladd ef; bydded dy law di arno ef yn gyntaf, i'w roddi i farwolaeth, a llaw yr holl bobl wedi hynny.
10. A llabyddia ef â meini, fel y byddo marw: canys ceisiodd dy wthio di oddi wrth yr Arglwydd dy Dduw, yr hwn a'th ddug di allan o dir yr Aifft, o dŷ y caethiwed.
11. A holl Israel a glywant, ac a ofnant, ac ni chwanegant wneuthur y fath beth drygionus â hyn yn dy blith.
12. Pan glywech am un o'th ddinasoedd y rhai y mae yr Arglwydd dy Dduw yn eu rhoddi i ti i drigo ynddynt, gan ddywedyd,
13. Aeth dynion, meibion y fall, allan o'th blith, a gyrasant drigolion eu dinas, gan ddywedyd, Awn, gwasanaethwn dduwiau dieithr, y rhai nid adnabuoch;
14. Yna ymofyn, a chwilia, a chais yn dda: ac wele, os gwirionedd yw, a bod yn sicr wneuthur y ffieidd‐dra hyn yn dy fysg;
15. Gan daro taro drigolion y ddinas honno â min y cleddyf; difroda hi, a'r rhai oll a fyddant ynddi, a'i hanifeiliaid hefyd, â min y cleddyf.