8. Cedwch chwithau bob gorchymyn yr ydwyf fi yn ei orchymyn i chwi heddiw; fel y byddoch gryfion, ac yr eloch i mewn, ac y meddiannoch y tir yr ydych yn myned trosodd iddo i'w feddiannu:
9. Ac fel yr estynnoch ddyddiau yn y tir yr hwn a dyngodd yr Arglwydd i'ch tadau, ar ei roddi iddynt, ac i'w had; sef tir yn llifeirio o laeth a mêl.
10. Oherwydd y tir yr wyt yn myned iddo i'w feddiannu, nid fel tir yr Aifft y mae, yr hwn y daethoch allan ohono, lle yr heuaist dy had, ac y dyfrheaist â'th droed, fel gardd lysiau:
11. Ond y tir yr ydych yn myned trosodd iddo i'w feddiannu, sydd fynydd‐dir, a dyffryndir, yn yfed dwfr o law y nefoedd;
12. Tir yw, yr hwn y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei ymgeleddu: llygaid yr Arglwydd dy Dduw sydd bob amser arno, o ddechreuad y flwyddyn hyd ddiwedd y flwyddyn hefyd.
13. A bydd, os gan wrando y gwrandewch ar fy ngorchmynion, y rhai yr ydwyf yn eu gorchymyn i chwi heddiw, i garu yr Arglwydd eich Duw, ac i'w wasanaethu, â'ch holl galon, ac â'ch holl enaid;
14. Yna y rhoddaf law i'ch tir yn ei amser, sef y cynnar‐law, a'r diweddar‐law; fel y casglech dy ŷd, a'th win, a'th olew;
15. A rhoddaf laswellt yn dy faes, i'th anifeiliaid; fel y bwytaech, ac y'th ddigoner.
16. Gwyliwch arnoch rhag twyllo eich calon, a chilio ohonoch, a gwasanaethu duwiau dieithr, ac ymgrymu iddynt;
17. Ac enynnu dicllonedd yr Arglwydd i'ch erbyn, a chau ohono ef y nefoedd, fel na byddo glaw, ac na roddo y ddaear ei chnwd, a'ch difetha yn fuan o'r tir yr hwn y mae yr Arglwydd yn ei roddi i chwi.
18. Am hynny gosodwch fy ngeiriau hyn yn eich calon, ac yn eich meddwl, a rhwymwch hwynt yn arwydd ar eich dwylo, a byddant yn rhactalau rhwng eich llygaid:
19. A dysgwch hwynt i'ch plant; gan grybwyll amdanynt pan eisteddych yn dy dŷ, a phan rodiech ar y ffordd, pan orweddych hefyd, a phan godych.
20. Ac ysgrifenna hwynt ar byst dy dŷ, ac ar dy byrth;
21. Fel yr amlhao eich dyddiau chwi, a dyddiau eich plant chwi, ar y ddaear yr hon a dyngodd yr Arglwydd wrth eich tadau am ei rhoddi iddynt, fel dyddiau y nefoedd ar y ddaear.
22. Canys os gan gadw y cedwch yr holl orchmynion hyn, y rhai yr ydwyf fi yn eu gorchymyn i chwi i'w gwneuthur, i garu yr Arglwydd eich Duw, i rodio yn ei holl ffyrdd ef, ac i lynu wrtho ef;
23. Yna y gyr yr Arglwydd allan yr holl genhedloedd hyn o'ch blaen chwi, a chwi a feddiennwch genhedloedd mwy a chryfach na chwi.