Deuteronomium 11:21-31 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

21. Fel yr amlhao eich dyddiau chwi, a dyddiau eich plant chwi, ar y ddaear yr hon a dyngodd yr Arglwydd wrth eich tadau am ei rhoddi iddynt, fel dyddiau y nefoedd ar y ddaear.

22. Canys os gan gadw y cedwch yr holl orchmynion hyn, y rhai yr ydwyf fi yn eu gorchymyn i chwi i'w gwneuthur, i garu yr Arglwydd eich Duw, i rodio yn ei holl ffyrdd ef, ac i lynu wrtho ef;

23. Yna y gyr yr Arglwydd allan yr holl genhedloedd hyn o'ch blaen chwi, a chwi a feddiennwch genhedloedd mwy a chryfach na chwi.

24. Pob man y sathro gwadn eich troed chwi arno, fydd eiddo chwi: o'r anialwch, a Libanus, ac o'r afon, sef afon Ewffrates, hyd y môr eithaf, y bydd eich terfyn chwi.

25. Ni saif gŵr yn eich wyneb: eich arswyd a'ch ofn a rydd yr Arglwydd eich Duw ar wyneb yr holl dir yr hwn y sathroch arno, megis y llefarodd wrthych.

26. Wele, rhoddi yr ydwyf fi o'ch blaen chwi heddiw fendith a melltith:

27. Bendith, os gwrandewch ar orchmynion yr Arglwydd eich Duw, y rhai yr ydwyf fi yn eu gorchymyn i chwi heddiw;

28. A melltith, oni wrandewch ar orchmynion yr Arglwydd eich Duw, ond cilio ohonoch allan o'r ffordd yr ydwyf fi yn ei gorchymyn i chwi heddiw, i fyned ar ôl duwiau dieithr, y rhai nid adnabuoch

29. Bydded gan hynny, pan ddygo yr Arglwydd dy Dduw di i'r tir yr ydwyt yn myned iddo i'w feddiannu, roddi ohonot y fendith ar fynydd Garisim, a'r felltith ar fynydd Ebal.

30. Onid yw y rhai hyn o'r tu hwnt i'r Iorddonen, tua'r lle y machluda'r haul, yn nhir y Canaaneaid, yr hwn sydd yn trigo yn y rhos ar gyfer Gilgal, gerllaw gwastadedd More?

31. Canys myned yr ydych dros yr Iorddonen, i fyned i feddiannu'r tir y mae yr Arglwydd eich Duw yn ei roddi i chwi; a chwi a'i meddiennwch ac a breswyliwch ynddo.

Deuteronomium 11