1. Car dithau yr Arglwydd dy Dduw, a chadw ei gadwraeth ef, a'i ddeddfau a'i farnedigaethau, a'i orchmynion, byth.
2. A chydnabyddwch heddiw: canys nid wyf yn ymddiddan รข'ch plant, y rhai nid adnabuant, ac ni welsant gerydd yr Arglwydd eich Duw chwi, ei fawredd, ei law gref, a'i fraich estynedig;
3. Ei arwyddion hefyd, a'i weithredoedd, y rhai a wnaeth efe yng nghanol yr Aifft, i Pharo brenin yr Aifft, ac i'w holl dir;