Deuteronomium 10:9-21 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

9. Am hynny ni bydd rhan i Lefi, nac etifeddiaeth gyda'i frodyr: yr Arglwydd yw ei etifeddiaeth ef; megis y dywedodd yr Arglwydd dy Dduw wrtho ef.

10. A mi a arhoais yn y mynydd ddeugain niwrnod a deugain nos, fel y dyddiau cyntaf: a gwrandawodd yr Arglwydd arnaf y waith hon hefyd; ni ewyllysiodd yr Arglwydd dy ddifetha di.

11. A dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Cyfod, dos i'th daith o flaen y bobl; fel yr elont i mewn ac y meddiannont y tir, yr hwn a dyngais wrth eu tadau ar ei roddi iddynt.

12. Ac yr awr hon, Israel, beth y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei ofyn gennyt, ond ofni yr Arglwydd dy Dduw, a rhodio yn ei holl ffyrdd, a'i garu ef, a gwasanaethu yr Arglwydd dy Dduw â'th holl galon, ac â'th holl enaid,

13. Cadw gorchmynion yr Arglwydd, a'i ddeddfau, y rhai yr wyf yn eu gorchymyn i ti y dydd hwn, er daioni i ti?

14. Wele, y nefoedd, a nefoedd y nefoedd, ydynt eiddo yr Arglwydd dy Dduw, y ddaear hefyd a'r hyn oll sydd ynddi.

15. Yn unig ar dy dadau di y rhoddes yr Arglwydd ei serch, gan eu hoffi hwynt; ac efe a wnaeth ddewis o'u had ar eu hôl hwynt, sef ohonoch chwi, o flaen yr holl bobloedd, megis heddiw y gwelir.

16. Enwaedwch chwithau ddienwaediad eich calon, ac na chaledwch eich gwar mwyach.

17. Canys yr Arglwydd eich Duw chwi yw Duw y duwiau, ac Arglwydd yr arglwyddi, Duw mawr, cadarn, ac ofnadwy yr hwn ni dderbyn wyneb, ac ni chymer wobr.

18. Yr hwn a farna'r amddifad a'r weddw; ac y sydd yn hoffi'r dieithr, gan roddi iddo fwyd a dillad.

19. Hoffwch chwithau y dieithr: canys dieithriaid fuoch yn nhir yr Aifft.

20. Yr Arglwydd dy Dduw a ofni, ac ef a wasanaethi: wrtho ef hefyd y glyni, ac i'w enw ef y tyngi.

21. Efe yw dy fawl, ac efe yw dy Dduw yr hwn a wnaeth i ti y mawrion a'r ofnadwy bethau hyn, y rhai a welodd dy lygaid.

Deuteronomium 10